Pecyn 'Safle' Cymraeg Beta ar gyfer Joomla! 2.5

Locked
sionp
Joomla! Apprentice
Joomla! Apprentice
Posts: 8
Joined: Fri Apr 27, 2012 7:57 am

Pecyn 'Safle' Cymraeg Beta ar gyfer Joomla! 2.5

Post by sionp » Thu Jul 19, 2012 3:41 pm

Mae pecyn beta Cymraeg 'safle' ar gyfer Joomla! wedi cael ei gwblhau, ac ar gael yn yr archif atodedig. Mae'r gwaith yma wedi cael ei gomisiynu gan Gyngor Sir Powys ar gwaith wedi cael ei gwblhau gan gwmni cyfieithu proffesiynol.
Fe fyddem yn hoff iawn o adborth am y pecyn yma fel y gallwn wella termau sydd wedi eu cyfieithu allan o'i gyd-destun. Bydd y pecyn cyflawn yn dilyn erbyn mis Medi 2012.

A beta 'site' Welsh language package has been completed for Joomla! 2.5 and is available in the attached archive. The work was commissioned by Powys County Council and completed by a professional translation company.
We would like any feedback on this translation so that we can improve on any terms translated out of context. A full pack will follow by September 2012.
You do not have the required permissions to view the files attached to this post.
Last edited by sionp on Fri Jul 20, 2012 6:48 am, edited 1 time in total.

User avatar
dyfrig
Joomla! Enthusiast
Joomla! Enthusiast
Posts: 136
Joined: Thu Nov 20, 2008 9:07 pm
Location: Cymru/Wales

Re: Pecyn 'Safle' Cymraeg Beta ar gyfer Joomla! 2.5

Post by dyfrig » Thu Jul 19, 2012 7:34 pm

Newyddion gwych. Dwi newydd fod yn edrych ar becyn Joomla Cymraeg oedd ar gael ar y we gan gwmni o Ganolbarth Cymru. Roedd yn echrydus o wael - defnydd amlwg o gyieithu ar-lein neu ddefnyddio geiriadur yn hollol ddi-glem. Gan fod y pecyn yma wedi ei gyfieithu yn broffesiynnol dwi'n mawr obeithio bydd o safon. Byddaf yn edrych yn fanwl ar y pecyn yma pan ddof yn ôl o'm gwyliau ganol Awst ac yn mawr obeithio bydd hyn yn fy ngalluogi i ddiweddaru ein gwefan i J2.5 tua diwedd yr haf.

Great news - I've just been looking at a 'full' package available online by a company from Mid Wales - it was atrocius with obvious use of pnline translators or clueless use of dictionaries.

I'll be having a good look at this package offline when I come back from holiday mid-August and hope to be able to use it to go live with a J2.5 version of our website at then end of Summer.

sionp
Joomla! Apprentice
Joomla! Apprentice
Posts: 8
Joined: Fri Apr 27, 2012 7:57 am

Re: Pecyn 'Safle' Cymraeg Beta ar gyfer Joomla! 2.5

Post by sionp » Fri Jul 20, 2012 6:51 am

dyfrig wrote:Gan fod y pecyn yma wedi ei gyfieithu yn broffesiynnol dwi'n mawr obeithio bydd o safon.
Dyfrig - Mae'r pecyn o safon, ond fe fydd yna agweddau y bydd angen eu gwella gan ei bod yn anodd cyfieithu testun heb ei weld yn ei gyd-destyn. Mae Cyngor Powys a'r cyfieithwyr wedi ymrwymo i sicrhau safon uchel iawn, ond bydd hyn yn dibynnu ar adborth gan ddefnyddwyr fel chi! Felly, cofiwch adael i ni wybod am unrhyw wall neu rywbeth nad yw'n gwneud synwyr.

Powys County Council and the translators are committed to produce a high quality package, however we will be depending on feedback from users such as yourselves!

sionp
Joomla! Apprentice
Joomla! Apprentice
Posts: 8
Joined: Fri Apr 27, 2012 7:57 am

Re: Pecyn 'Safle' Cymraeg Beta ar gyfer Joomla! 2.5

Post by sionp » Mon Aug 20, 2012 2:40 pm

Rwyf newydd glywed gan y cyfieithwyr fod y gwaith cyfieithu ar y pecyn 'Gweinyddwr' wedi ei gwblhau hefyd. Fe fyddwn yn pecynnu'r pecyn llawn ac yn ei gyhoeddi yma - o dan bennyn newydd siwr o fod - mor fuan ag y gallwn.

I have just heard that the translators have completed the translation for the 'Administrator' pack as well. We'll package and post the full pack here - probably under a new topic - as soon as possible.

sionp
Joomla! Apprentice
Joomla! Apprentice
Posts: 8
Joined: Fri Apr 27, 2012 7:57 am

Re: Pecyn 'Safle' Cymraeg Beta ar gyfer Joomla! 2.5

Post by sionp » Thu Aug 23, 2012 3:34 pm

Mae'r pecyn Cymraeg llawn ar gael nawr o'r pennawd yma.

The full Welsh language pack is now available from this topic.

User avatar
dyfrig
Joomla! Enthusiast
Joomla! Enthusiast
Posts: 136
Joined: Thu Nov 20, 2008 9:07 pm
Location: Cymru/Wales

Re: Pecyn 'Safle' Cymraeg Beta ar gyfer Joomla! 2.5

Post by dyfrig » Thu Aug 23, 2012 7:00 pm

Mae rhyw broblem - tydi'r pwnc yna ddim yn bodoli!

sionp
Joomla! Apprentice
Joomla! Apprentice
Posts: 8
Joined: Fri Apr 27, 2012 7:57 am

Re: Pecyn 'Safle' Cymraeg Beta ar gyfer Joomla! 2.5

Post by sionp » Fri Aug 24, 2012 7:41 am

Hmmm... Dyna od! Wedi ei ail-bostio yma.

nanamine671
Joomla! Fledgling
Joomla! Fledgling
Posts: 2
Joined: Wed May 29, 2013 2:56 am
Contact:

Re: Pecyn 'Safle' Cymraeg Beta ar gyfer Joomla! 2.5

Post by nanamine671 » Wed May 29, 2013 2:58 am

Gan fod y pecyn yma wedi ei gyfieithu yn broffesiynnol dwi'n mawr obeithio bydd o safon.

User avatar
dyfrig
Joomla! Enthusiast
Joomla! Enthusiast
Posts: 136
Joined: Thu Nov 20, 2008 9:07 pm
Location: Cymru/Wales

Re: Pecyn 'Safle' Cymraeg Beta ar gyfer Joomla! 2.5

Post by dyfrig » Sun Jun 02, 2013 6:33 pm

Mae'r pecyn yma o safon arbennig o dda. Dwi'n ei ddefnyddio ar un wefan (http://www.gwefrhebwifrau.org.uk) ac yn bwriadu ei ddefnyddio ar un arall yn fuan cyn gynted a byddaf wedi cael amser i ddiweddaru honno o Joomla 1.5.

Roeddwn wedi addo i Sion y byddwn yn profi'r pecyn. Dwi wedi bod mor brysur fel nad wyf wedi cael amser i anfon sylwadau manwl ond gallaf gadarnhau fod y gwaith yn arbennig o dda. Dwi'n hapus iawn i'w ddefnyddio ar wefan sy' ar gael i'r cyhoedd. Dylem fel cymuned o ddefnyddwyr Joomla Cymraeg geisio dwyn pwysau i sicrhau mai'r fersiwn yma yw'r un swyddogol ar wefan Joomla a nid y fersiwn echrydus sydd yna ar hyn o bryd. Oes gan rhywun unrhyw syniadau sut i fynd at i wneud hynny.


Locked

Return to “Welsh Forum”