Pecyn Llawn Cymraeg Beta ar gyfer Joomla! 2.5

Locked
sionp
Joomla! Apprentice
Joomla! Apprentice
Posts: 8
Joined: Fri Apr 27, 2012 7:57 am

Pecyn Llawn Cymraeg Beta ar gyfer Joomla! 2.5

Post by sionp » Fri Aug 24, 2012 7:39 am

Mae'r pecyn iaith Cymraeg llawn wedi ei gwblhau ac ar gael isod. Fe fyddem yn ddiolchgar iawn o unrhyw adborth / sylwadau am y cyfieithiad yma fel y gallwn gwblhau unrhyw welliannau iddo cyn gynted â phosibl. Diolch yn fawr i bawb sy'n fodlon ein helpu.

The full Welsh language pack is now complete and available below. We would be grateful of any feedback / comments re. the translation so that we can complete any improvements to it asap. Thank you to all of you who are willing to help.
You do not have the required permissions to view the files attached to this post.

sionp
Joomla! Apprentice
Joomla! Apprentice
Posts: 8
Joined: Fri Apr 27, 2012 7:57 am

Re: Pecyn Llawn Cymraeg Beta ar gyfer Joomla! 2.5

Post by sionp » Tue Apr 16, 2013 7:14 pm

Pecyn llawn ar gyfer Joomla! 2.5.8. Yn anffodus dw i'n parhau i gael trafferth i gael y pecyn yma wedi ei gyhoeddi drwy'r ffyrdd swyddogol, felly rwy'n gorfod ei postio yma. Fe wnaf bostio pecyn ar gyfer fersiwn 2.5.9 wedi i mi gael cyfle i gyfieithu llinynnau sydd wedi newid yn y fersiwn ddiweddaraf.

This is a full Welsh package for Joomla! 2.5.8. I'll post a version for 2.5.9 once I've had an opportunity to look at what needs translating for the latest version.
You do not have the required permissions to view the files attached to this post.

diggles1972
Joomla! Fledgling
Joomla! Fledgling
Posts: 2
Joined: Sun Jun 02, 2013 10:40 am

Re: Pecyn Llawn Cymraeg Beta ar gyfer Joomla! 2.5

Post by diggles1972 » Sun Jun 02, 2013 11:34 am

Hi,

Would there be any chance of this being updated to Joomla 3.0 please? If I was better at speaking Welsh I'd have a go myself. Unfortunately, despite living near Porthmadog, I'm not as good as I'd like. Rydw i yn siarad Cymraeg, just not very good. Diolch yn fawr/Thank you.

emyrarall
Joomla! Apprentice
Joomla! Apprentice
Posts: 9
Joined: Thu Sep 05, 2013 10:49 am

Re: Pecyn Llawn Cymraeg Beta ar gyfer Joomla! 2.5

Post by emyrarall » Thu Sep 05, 2013 11:11 am

Carwn i holi'r un peth. Hapus i helpu - mae'r Cymraeg yn iawn ond nid oes gen i unrhyw sgiliau rhaglenni. Oes bosib cael rhywbeth ar gyfer Joomla 3 sy'n dodi'r draig goch i fyny, ac yna'n gadael i ni sortio pob dim arall yn y 'back-end'. Heb dwy 'language pack' does dim posib gwneud dim efo FaLang hyd a dwi'n gweld.
Diolch!

emyrarall
Joomla! Apprentice
Joomla! Apprentice
Posts: 9
Joined: Thu Sep 05, 2013 10:49 am

Re: Pecyn Llawn Cymraeg Beta ar gyfer Joomla! 2.5

Post by emyrarall » Sat Mar 01, 2014 4:56 pm

Cyfieithiad arbennig o dda gan Sion. Rwy'n datblygu pecyn ar gyfer joomla 3.2 sy'n seiliedig ar hwn. Os oes rhywun yn fodlon helpu efo rhywfaint o'r gwaith cyfieithu bydde hynny'n gwych.....!

User avatar
dyfrig
Joomla! Enthusiast
Joomla! Enthusiast
Posts: 136
Joined: Thu Nov 20, 2008 9:07 pm
Location: Cymru/Wales

Re: Pecyn Llawn Cymraeg Beta ar gyfer Joomla! 2.5

Post by dyfrig » Mon Mar 03, 2014 4:56 pm

Dwi ddim yn teimlo bod gen i'r amser ar hyn o bryd i wneud y cyfieithu ond byddwn yn fodlon edrych dros y gwaith i awgrymu gwelliannau neu gywiriadau.

Dwi'n teimlo ei bod yn bwysig i'r rhai ohonom sy'n defnyddio Joomla ar gyfer gwefannau i geisio cael cyfeithiad da yn fersiwn swyddogol. Mae'r fersiwn 2.5 sydd ar gael yn warthus tra mae fersiwn Powys (gweler neges SionP uchod) yn arbennig o dda a phroffesiynnol.


Dwi'n defnyddio Joomla ar gyfer y gwefannau canlynol
www.gwefrhebwifrau.org.uk (2.5)
www.popethcymraeg.com (1.5 ar fîn cael ei ddiweddaru - hoffwn fynd i 3.2 ond rhaid cael fersiwn Gymraeg)


Locked

Return to “Welsh Forum”