Maes 'Enw'r Gronfa Ddata' y gosodwr yn anghywir

Locked
User avatar
dyfrig
Joomla! Enthusiast
Joomla! Enthusiast
Posts: 136
Joined: Thu Nov 20, 2008 9:07 pm
Location: Cymru/Wales

Maes 'Enw'r Gronfa Ddata' y gosodwr yn anghywir

Post by dyfrig » Sat Apr 25, 2020 9:40 am

Dwi newydd sylweddoli fod gwall yn y ffeiliau Cymraeg ar gyfer gosod Joomla newydd ers rhyddhau fersiwn 3.9.0 ym Mis Tachwedd 2018! Dwi'n credu mai gwall o'r fersiwn 2.5 echrydus gafodd ei gyhoeddi yn 2012 sydd wedi ail ymddangos yn y meddalwedd cyfieithu Crowdin a minnau heb sylwi. Ymddiheuriadau am hynny!

Mae cyfieithiad ymadrodd arall wedi ei ddyblygu fel cyfieithiad ar gyfer label y maes 'Enw'r Gronfa Ddata'.
Dylai fod fel yr isod
Gallwch gywiro hyn drwy roi'r ffeil cy-GB.ini atodedig yn lle'r un wallus yn y ffolder gosod ar ôl ei dad-sipio ar eich gweinydd.
Dylai fod yn y ffolder ...\installation\language\cy-GB.

Bydd hyn wedi ei gywiro yn y fersiwn nesaf o Joomla sef 3.9.19.
You do not have the required permissions to view the files attached to this post.

Locked

Return to “Welsh Forum”